CEU 05

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE | Culture and the new relationship with the EU

Ymateb gan: Cyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru  | Evidence from: Arts Council of Wales / Wales Arts International

 

 

Cyflwyniad

 

 

1.      Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu a datblygu celfyddydau Cymru. Rydym yn atebol i Senedd Cymru ac yn gyfrifol i Lywodraeth Cymru am y ffordd y mae'r arian a gawn ganddynt i gelfyddydau Cymru yn cael ei wario. Rydym hefyd yn ddosbarthwr Loteri ar gyfer celfyddydau Cymru.

 

2.      Mae'r dystiolaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi'i llywio gan wybodaeth a phrofiad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n cynnal Gwybodfan Celf y DU fel pwynt gwybodaeth symudedd y DU ar ran y Cynghorau Celfyddydau/Asiantaethau Datblygu'r Celfyddydau a llywodraethau datganoledig Cymru a'r Alban.

3.      Yn ystod yr aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, bu celfyddydau Cymru yn elwa’n sylweddol mewn tair ffordd benodol:

                                                              i.      Rhyddid i symud pobl, nwyddau a gwasanaethau

                                                             ii.      Arian uniongyrchol a gydfuddsoddwyd i greu'r seilwaith cyfalaf sy'n asgwrn cefn i gelfyddydau Cymru heddiw yn ogystal ag arian a oedd yn annog cydweithio trawswladol

                                                           iii.      Cyfranogiad a chanfyddiadau o ran rhwydwaith a digwyddiadau i leoli ac ymgysylltu artistiaid â phartneriaid mewn 27 gwlad ac mewn rhaglenni rhyngwladol gyda gweddill y byd

 

Mae'r Pwyllgor yn ystyried effaith ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ar y sector diwylliant a hoffai gael eich barn am y canlynol:

Effaith y berthynas newydd ar artistiaid a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn gweithio’n drawsffiniol (gan gynnwys teithio a gweithio yng Nghymru).

 

Rhyddid i symud

4.      Effaith ymadawiad y DU â'r Undeb ar artistiaid a gweithwyr creadigol o Gymru sy'n gweithio yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd yw bod angen iddynt ddeall y rheoliadau ar gyfer pa bynnag aelod-wladwriaeth o’r Undeb y teithiant  iddi gan gynnwys mynediad/fisâu ffin a’r rheoliadau trwyddedu i’w gwaith a pha mor hir y byddant yn aros.

 

5.      Mae hyn yn fwy cymhleth pan fydd artistiaid neu gwmnïau’n teithio gwaith gan fod angen deall gwahanol reolau mewn gwahanol wledydd.

 

6.      Gall rheol ardal Schengen sy’n caniatáu uchafswm arosiadau ymwelwyr o 90 diwrnod mewn 180 fod yn ataliad i gwmnïau teithiol a gweithwyr creadigol unigol. Clywsom hanesion bod hynny wedi effeithio'n benodol ar y diwydiant cerddoriaeth a chriwiau o'r DU a fyddai wedi cael gwaith o'r blaen ar deithiau hir yn Ewrop.

 

7.      Mae bodolaeth yr Ardal Deithio Gyffredin wedi lleddfu rhywfaint ar y ffordd i alluogi symud pobl rhwng Cymru ac Iwerddon i barhau sy'n ddefnyddiol i sector y celfyddydau wrth weithio’n drawsffiniol ar rai prosiectau tymor byr a thymor hwy.

 

8.      Yn yr un modd, mae artistiaid a gweithwyr creadigol o’r Undeb sy'n dod i weithio yma wedi gorfod deall gofynion a llwybrau mynediad newydd ffiniau’r DU sy'n berthnasol iddynt, yn ogystal â rhai o'r lleoliadau a'r gwyliau yma. Yn gyffredinol, digwyddodd y rhain drwy Ymgysylltiad â Thâl a Ganiateir, Nawdd i Weithwyr Creadigol a hefyd rhai gwyliau sydd wedi edrych ar lwybr yr Ŵyl Heb Drwydded.

 

9.      Yn gyffredinol, mae'r sector yn dweud wrthym fod baich gweinyddol ac ariannol cynyddol ar unigolion a chwmnïau llai (fel ein rhai yma), oherwydd y prosesau dan sylw a'r costau cysylltiedig.

 

10.  Mewn arolwg diweddar gan UK Music dywedodd bron i un o bob tri cherddor a ymatebodd fod eu henillion wedi’u heffeithio ers ymadawiad swyddogol y DU â’r Undeb. Dywedodd 43% hefyd o'r rhai a drawyd gan Frecsit nad oedd bellach yn hyfyw iddynt fynd ar daith o amgylch yr Undeb.

 

11.  Bydd y materion hyn hefyd yn cael effaith enwedig ar fandiau a cherddorion sy'n dod i'r amlwg ac ar y cynigion a'r cyfleoedd i deithio'n rhyngwladol.

 

12.  Mae gan rai sefydliadau a ariannwn brofiad uniongyrchol o'r baich gweinyddol ac ariannol cynyddol arnynt wrth deithio yn yr Undeb gan gynnwys NoFit State, Hijinx a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

 

13.  Ar lefel ddiwylliannol, mae parodrwydd i barhau â chydweithio rhwng unigolion a chwmnïau yng Nghymru a'r Undeb ond mae canfyddiad hefyd ac weithiau nerfusrwydd y bydd gweithio gyda'r DU/yr Undeb yn fwy problemus.

 

14.  O safbwynt ieithyddol, mae colled sylweddol o ran prosiectau amlieithog yn dod i Gymru gyda chefnogaeth rhaglen Ewrop Greadigol. Mae bwlch hefyd i'r Gymraeg o ran y cymorth sydd ar gael ar gyfer cydweithio rhwng ieithoedd lleiafrifol, drwy brosiectau Cydweithredu Tiriogaethol (Interreg). Er bod ewyllys dda gan sawl diwylliant lleiafrifol arall yn yr Undeb, a chydymdeimlad at iaith a diwylliant Cymru, mae'n ddrutach ac yn anos oherwydd y rhwystrau i'n hartistiaid fod yn rhan o brosiectau a ariennir gan yr Undeb.

 

 

Effaith trefniadau masnachu newydd sy'n ymwneud â gweithgarwch diwylliannol

15.  Mae'r trefniadau masnachu newydd gyda'r Undeb wedi cael effaith ar y sector diwylliannol, yn enwedig y rhai sy'n symud nwyddau dros dro. Er enghraifft, setiau theatr symudol a phropiau, offerynnau, offer cerddorol,  gweithiau celf ar gyfer arddangosfeydd ac ati.

 

16.   Mewn llawer o achosion, lle mae nwyddau'n cael eu mewnforio/allforio dros dro ac na chânt eu gwerthu, nid oes tollau yn ddyledus. Ond yn aml mae dryswch ynghylch y broses dderbyn dros dro ac a oes angen trwydded ATA ai peidio.

 

17.  Mae trwydded ATA yn ddrud, ac nid yw bob amser yn berthnasol i artistiaid a gall fod diffyg hyder gan artistiaid wrth ddefnyddio’r drwydded. Roedd sector y celfyddydau perfformio yn ei ddefnyddio'n rheolaidd ac mae'n addas am setiau mawr i berfformiadau rheolaidd neu i sefydliadau mwy. Ond nid yw bob amser yn addas i sefydliadau llai neu artistiaid unigol, gan gynnwys artistiaid gweledol, neu artistiaid newydd.  

 

18.  Mae angen i gerddorion fod yn ymwybodol o deithio gydag offeryn sy'n cynnwys deunyddiau gwarchodedig fel ifori y bydd angen tystysgrif CITES wrth groesi ffin yr Undeb/y DU. (Mae hyn yn berthnasol i bropiau/gwisgoedd hefyd).

 

19.  Dywedodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrthym: "mae'n rhaid i ni ymrwymo rhagor o adnoddau (amser ac arbenigedd) mewn perthynas â gofynion CITES, cargo a nwyddau. Yn yr un modd, mae costau ychwanegol lle mae angen mewnforio/allforio eitemau. Er enghraifft os ydym yn archebu offer o wledydd yr Undeb. Mae hyn fel arfer yn ychwanegu 20% at y costau."

 

 

Argaeledd canllawiau a chymorth i'r sector am y berthynas newydd rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd

 

 

20.   Ers i'r DU ymadael â’r Undeb, mae nifer o lefydd sy’n cynnig arweiniad a chefnogaeth i'r sector diwylliannol ond mae bylchau yn y ddarpariaeth hefyd.

 

21.  Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n arwain ar fenter  Gwybodfan Celf y DU, mewn partneriaeth â’r Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Bu’r Gwybodfan yn cefnogi'r sector i edrych ar rai o'r materion ymarferol i artistiaid gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddod i'r DU ond hefyd gyda mynd i'r Undeb gan fod llawer o gwestiynau ymarferol wedi'u codi gan y sector.

 

22.  Mae Gwybodfan Celf y DU yn cynnig gwybodaeth ymarferol yn rhad ac am ddim i helpu artistiaid, gweithwyr creadigol a sefydliadau i ddeall rheolau a gofynion gweinyddol ymweliadau creadigol â'r DU. Bu’r cymorth ar ffurf adnoddau (gweminarau, canllawiau ar-lein ac ati).

 

23.  Canolbwyntiodd rhai o'r digwyddiadau a'r gweminarau ar agweddau ymarferol fel fisâu neu drwyddedau ac eraill ar gyfleoedd ariannu rhyngwladol (er enghraifft Cronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad).

 

24.  Mae Gwybodfan Celf y DU yn rhan o rwydwaith ehangach o Bwyntiau Gwybodaeth Symudeddar draws yr Undeb a’r tu hwnt. Mae'r grŵp dan ymbarél y rhwydwaith symudedd artistiaid On the Move, y mae Cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru yn aelod ohono. Mae'r pwyntiau symudedd eraill yn darparu gwybodaeth ymarferol i artistiaid sy'n teithio i'w gwledydd. Mae saith ohonynt mewn aelod-wladwriaethau'r Undeb. Yn benodol, mae Touring Artists yn yr Almaen a Cultuurloket yng Ngwlad Belg wedi datblygu canllawiau ac adnoddau yn benodol ar gyfer cwestiynau ar ôl Brecsit.

 

25.  Ochr yn ochr â hynny, mae llawer o gyrff arweiniol sector y DU wedi sefydlu cefnogaeth ac arweiniad penodol i'w haelodau. Y diwydiant cerddoriaeth yn benodol a fu ar flaen y gad. Ymhlith y rhai sydd wedi datblygu adnoddau mae ISM (Cymdeithas Annibynnol y Cerddorion); MU (Undeb y Cerddorion); Gweinyddu’r  Celfyddydau; ABO (Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain); Xtrax (Celfyddydau Awyr Agored); Cymorth i Gerddorion y DU.

 

26.  Mae gan Lywodraeth y DU dudalen ar ei gwefan am ymweld â'r DU fel gweithiwr creadigol.

 

27.  Mae gan PEARLE (Perfformiadau Byw Ewrop) nifer o adnoddau ar eu gwefan sy'n ddefnyddiol i bobl greadigol yn y DU sy'n gweithio yn yr Undeb.

 

28.  Yn gyffredinol, mae canllawiau ar gael ond, er enghraifft, nid yw'r Pwyntiau Gwybodaeth Symudedd yn bodoli ym mhob gwlad felly gall gymryd llawer o amser i artistiaid a chwmnïau unigol ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol. Mae angen cefnogaeth, o ran y cymorth ariannol sydd ei angen i dalu costau'r weinyddiaeth ychwanegol.

 

 

Yr effaith ar fynediad at raglenni a rhwydweithiau ariannu

 

29.  Mae’n fater cymhleth a byddai angen rhagor o waith ymchwil a monitro data i asesu effaith yr ymadawiad â chronfeydd ariannu’r Undeb, yn enwedig y buddsoddiad a wnaed i seilwaith celfyddydau Cymru gan Gydgyfeirio a Chronfeydd Amcan yr Undeb i’w gymharu â rhaglen Ffyniant Bro’r DU. Nid oes mecanwaith ar hyn o bryd i wneud y gwaith.

 

30.  Heb os, mae sector celfyddydau Cymru yn gweld eisiau arian Ewrop Greadigol a mynediad at gyfranogi o’r prosiectau a'r rhwydweithiau yma. Hefyd mae gan raglen Ewrop Greadigol ffrwd symudedd (Symudiadau Diwylliannol Ewrop) nad yw artistiaid o Gymru yn gallu cymryd rhan ynddi.

 

31.  Mewn ffordd debyg i gytundeb y DU i ymgysylltu â Gorwel Ewrop (rhaglen ariannu ac ymchwil), gallai'r DU gymryd rhan yn rhaglen Ewrop Greadigol gan fod y rhaglen ar hyn o bryd yn cynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o’r Undeb.

 

32.  Yn 2020, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas a’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, at Lywodraeth y DU ar y pryd i annog ailystyried cyfranogiad y DU o Ewrop Greadigol, gan awgrymu y gallai Cymru ofyn am aelodaeth ranbarthol i drydedd wlad.

 

33.  Er bod rhaglen wedi'i datblygu i gefnogi cyfnewidfeydd astudio rhyngwladol (Taith), nid oes unrhyw ddewis arall wedi'i sefydlu yn lle Ewrop Greadigol naill ai yng Nghymru nac ar draws y DU. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn parhau i redeg rhaglen y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, ac mae Cynghorau Celfyddydau/Asiantaethau Datblygu'r Celfyddydau y 4 cenedl wedi sefydlu Cronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad, ond cronfeydd bach ydynt lle mae ceisiadau’n gyson am fwy o lawer na’r hyn y gall yr arian ei gefnogi.  

 

34.  Mae’n anodd cael gwybod effaith yr hyn a allai fod wedi'i fuddsoddi pe bai'r DU yn dal i fod yn aelodau o’r Undeb ac Ewrop Greadigol yn benodol. Ond sylweddol yw’r effaith ar sefydliadau sy’n bodoli i rwydweithio ledled yr Undeb. Enghraifft dda yw Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (y derbynnydd mwyaf llwyddiannus o arian Ewrop Greadigol yng Nghymru) a’r effaith andwyol ar eu gallu i gysylltu awduron yng Nghymru â'i rhwydwaith Ewropeaidd. Mae'n hollol anghynaladwy bod yr arian cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau i gelfyddydau Cymru yn pontio'r bwlch mewn gweithgareddau a ariannwyd gan yr Undeb.

 

35.  Pan oeddem o hyd yn aelodau o’r Undeb ac yn rhan o Ewrop Greadigol, cydgynhaliwyd y Ddesg Ewrop Greadigol yng Nghymru gan Gymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn fodel defnyddiol iawn ac yn rhywbeth y byddai Cyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i'w archwilio fel rhan o'r Memorandwm newydd o Ddealltwriaeth gyda Chymru Greadigol.

 

36.  Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn buddsoddi mewn rhai mentrau i ganiatáu i artistiaid Cymru barhau i ymgysylltu â rhwydweithiau Ewrop drwy ein haelodaeth o Culture Action Europe, IETM, Res Artis ac On the Move a digwyddiadau fel Womex a Tanzmesse.

 

37.  Ond gyda chostau cynyddol a llai o arian cyhoeddus ar gael, mae gwir fygythiad i gyfranogiad sefydliadau o Gymru o rwydweithiau Ewropeaidd allweddol. Mae hyn yn arwain at y canfyddiadau nad ydym am ymgysylltu felly. Mae dryswch am  symudedd artistiaid hefyd yn peryglu sefyllfa artistiaid o Gymru i gael eu  ystyried/dewis ar gyfer gwaith yn yr Undeb ac ystyrir felly fod artistiaid o aelod-wladwriaethau yn haws i'w cyflogi. Yn yr un modd, mae hyn yn effeithio ar benderfyniadau artistiaid rhyngwladol sy'n teithio Ewrop i betruso rhag dod i'r DU.

 

38.  Mae ymddatod oddi wrth rwydweithiau Ewrop yn arwain at ostyngiad mewn gwybodaeth yn sector Cymru o'r cyfleoedd sydd ar gael i’n hartistiaid i weithio'n rhyngwladol. Efallai y bydd artistiaid yn colli allan yn y cyfleoedd datblygu proffesiynol a'r buddsoddiad o'r tu allan i'r DU.

 

39.  Mae hefyd gwir effaith yn nhermau’r canfyddiadau diwylliannol ehangach o Gymru fel cenedl, y mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn mynd i'r afael â nhw drwy gydariannu ymgyrchoedd cysylltiadau diwylliannol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

 

40.   Er enghraifft, mae canfyddiadau o'r DU yn Ffrainc ar ei lefel isaf erioed. Roedd cynnal rhaglen ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn gyfle euraidd i newid canfyddiadau, er bod angen llawer rhagor o ran diplomyddiaeth ddiwylliannol i wrthweithio canfyddiadau negyddol o’r DU yn Ffrainc. Bydd y ffocws ar y DU a Ffrainc a fydd yn arwain at y Gemau Olympaidd ym Mharis yn 2024 yn gyfle arall o'r fath a hefyd bydd y chwe phrosiect a ariennir drwy Gronfa Cymru yn Ffrainc, cydfuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru.

 

41.  Mae parhau i gysylltu drwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol yn hanfodol i artistiaid a sefydliadau Cymru barhau i weithio'n rhyngwladol. Mae aelodaeth o lawer o rwydweithiau'r Undeb ar agor y tu hwnt i wledydd yr Undeb, felly mae cyfle i ymuno â'r rhwydweithiau yma. Ond er mwyn cymryd rhan weithredol ynddynt a gwireddu pob budd, mae angen buddsoddiad (amser, costau teithio ac ati). Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gefnogaeth i hyn y tu allan i Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

 

 

 

Unrhyw newidiadau i'r berthynas rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd a allai wella gweithio trawsffiniol i'r sector diwylliant

 

42.   Bu llawer o gyrff arweiniol sector y DU, yn enwedig yn y sector cerddorol, yn lobïo Llywodraeth y DU am hepgor yr angen am fisa i'r sector diwylliannol wrth deithio yn yr Undeb/y DU ac am leihau’r baich gweinyddol yn enwedig ar gyfer symud nwyddau diwylliannol dros dro.

 

43.   Mae adroddiadau ac argymhellion diweddar yn cynnwys Let the Music Movegan  UK Music a Paying the Price  gan yr ISM. Er eu bod yn benodol i gerddoriaeth, mae'r materion yn berthnasol ar draws llawer o sector y celfyddydau perfformio.

 

44.  Mae Gwybodfan Celf y DU wedi partneru gydag On the Move ar gyfer gweminar am  gyfnewidfeydd yr Undeb/y DU yn y Celfyddydau Gweledol, gan arwain at bapur polisi gydag argymhellion ar ochr yr Undeb.

 

 

Unrhyw sylwadau eraill

 

45.  Hoffai Cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru nodi eto fod angen cefnogaeth ar y DU i gymryd rhan unwaith eto yn y rhaglen Ewrop Greadigol. Mae'n siomedig nad yw hyn wedi'i gynnwys ar hyn o bryd ym Mlaenoriaethau a Strategaeth y Pwyllgor ar gyfer 6ed Senedd 2021-26. Byddai cefnogaeth i hyn o fudd enfawr i'r sector diwylliannol, gan gynnig cyfleoedd newydd i artistiaid a dangos parodrwydd ac ymrwymiad i adfer ein hyder mewn cydweithredu diwylliannol ar draws y DU/yr Undeb.

46.  Fel aelod hirsefydlog o rwydwaith On the Move, bydd Cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal Cynulliad Cyffredinol 2024 yng Nghaernarfon 24-26 Ebrill 2024. Bydd yn gyfle gwych i ymuno ag aelodau ac arbenigwyr y rhwydwaith ym maes symudedd diwylliannol i drafod y camau ymarferol ymlaen yn ein perthynas newydd â'r Undeb. Gallai hyn fod yn gyfle i'r Pwyllgor ymgysylltu â'r rhwydwaith tra bo yng Nghymru gan gyflawni pwynt 41 o Flaenoriaethau a Strategaeth y Pwyllgor ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol.

 

 

Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

12 Hydref 2023